P-04-688 – Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Peter Bamsey ar ôl casglu 531 llofnod.
Geiriad y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob dull sydd ar gael iddi, gan gynnwys dulliau ariannol, i gefnogi'r gwaith o gwblhau'r orsaf bŵer newydd sydd wedi'i chynllunio ar gyfer gwaith dur Port Talbot. Bydd adeiladu'r orsaf hon yn creu swyddi a phan fydd yn weithredol, bydd yr orsaf yn lleihau allyriadau, yn lleihau costau rhedeg Tata ac yn helpu i ddiogelu swyddi hollbwysig yn yr ardal.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Aberafan
· Gorllewin De Cymru